Ysgol Bro Cernyw

NEWYDDION TYMOR Y GWANWYN

Hafan > Newyddion > NEWYDDION TYMOR Y GWANWYN

Tymor prysur iawn unwaith eto i ddisgyblion Ysgol Bro Cernyw!

Cafwyd diwrnod Cariad@Urdd ar y 25 o Ionawr ble wisgodd y disgyblion goch, gwyn a gwyrdd i’r ysgol a cafwyd disgo hwyliog o ganeuon Cymraeg i ddathlu’r diwrnod arbennig!
Mae dosbarth Derfyn wedi bod cael sesiynau cerdd gyda Mrs Ruth Owen drwy gydol y tymor ac wedi mwynhau yn ofnadwy cael dysgu sgil newydd!

Bu i’r Cyfnod Sylfaen fwynhau prynhawn o grwydro a sgwrsio a CA2 fwynhau cwmni ei gilydd yn ymlacio wrth gyd- chwarae fel rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant. Bu iddynt ddysgu’r 5 Ffordd at Les*

  • Bod yn sylwgar
  • Cysylltu
  • Bod yn fywiog
  • Dal ati i ddysgu
  • Rhoi

Bu’r tim pêldroed cymysg yn chwarae yn arbennig yn nhwrnament yr Urdd yng Ngholeg Llandrillo! Bu iddynt golli 4, cyfartal 1 a churo 1 Gwych iawn!
Llongyfarchiadau mawr i bawb ar eu perfformiadau gwych yn yr Eisteddfod Cylch Bro Aled! Fe wnaeth pawb eu gorau glas! Roedd ymddygiad y plant yn benigamp drwy gydol y dydd ac roeddynt yn cystadlu mewn ysbryd teg a chefnogol i bawb!

Dyma ganlyniadau’r diwrnod:

Unawd bl2 ac Iau- Gwilym 1af, Erin 2il
Unawd Cerdd Dant bl2 ac iau- Gwilym 1af, Lili 2il, Mabon 3ydd
Llefaru bl2 ac iau- Gwilym 1af, Mabon 2il, Erin 3ydd
Unawd Bl3 a 4 - Cadi 1af, Mirain 2il
Unawd cerdd Dant bl3 a 4- Mirain 1af, Anni 2il, Gwen 3ydd
Llefaru Bl3 a 4- Anni 1af, Casi 2il
Unawd Bl5 a 6 - Brython 1af, Abner 2il
Unawd Cerdd Dant Bl5 a 6- Mali 3ydd
Alaw Werin bl6 ac iau- Brython 1af
parti Cerdd Dant-1af
Parti Unsain - Bois Bro Cernyw 1af, Merched Cernyw 2il
Cor- 1af
Parti Llefaru- 1af
Ymgom- 1af
Parti Deulais- 2il

Dathlwyd diwrnod Trwynau Coch yn yr ysgol gyda disgo a diwrnod di-wisg! Diolch i bawb am eu cyfraniadau hael!
Daeth cyfle fel ysgol i ni gymryd rhan yn Noson Merched y Wawr. Daeth criw o blant at ei gilydd i roi rhai o eitemau yr Urdd. Diolch ir plant am roi eu hamser ac i griw Merched y Wawr am y gwahoddiad!

Cafwyd gwasanaeth hyfryd yn dysgu am Sul y Palmwydd a Hanes y Pasg gyda Mrs Gwenda Cooper.

Llongyfarchiadau anferth i bawb a fu’n cymryd rhan yn Eisteddfod Rhanbarth Conwy!

Roedd pawb yn WYCH unwaith eto!!! chwip o Eisteddfod!

7 trydydd wobr
3 ail wobr
5 cyntaf

a tlws i’r ysgol o dan 100 disgybl gyda’r mwyaf o farciau! Rydym mor falch o bawb!
Unawd bl2 ac iau - Gwilym 2il, Erin 3ydd
Unawd Cerdd Dant bl2 ac iau- Gwilym 1af
Llefaru bl 2 ac iau- Gwilym 1af
Unawd Cerdd Dant bl3 a 4- Anni 1af
Llefaru bl3 a 4 - Anni 3ydd
Unawd Bl5 a 6 - Brython 3ydd
Deuawd Cerdd Dant- Elisa a Brython 3ydd
Parti Deulais - 3ydd
Parti Cerdd Dant- 3ydd
Parti Unsain- Bois Bro Cernyw 2il
Parti Llefaru- 1af
Parti Dawnsio bl4 ac iau- dawnswyr Collen 2il
Ymgom- Deio, Abner, Brython a Huw- 3ydd
Cor- 1af

Ymlaen i Llanymddyfri!!


Pob Eitem Newyddion